Advance Search

Browse Jobs

Assistant Manager

Posted 14 days ago

  • Cardiff, South Glamorgan
  • Any
  • External
  • Expired - 2 months ago
Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg Teitl y Rôl: Rheolwr/wraig Cynorthwyol Bwyd a Diod Cyflog:£28,231 Dyddiad Cau: 01/05/2024 Dyddiad Cyfweld: WD 06/05/2024 Amdanom ni/Ein Hadran: Rydyn ni’n gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd a chomedi i ddawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant Cymru. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio. Fel lleoliad, mae ein hadran Bwyd a Diod yn ffynhonnell incwm pwysig i ni i’n galluogi i barhau i dyfu fel prif gartref i’r celfyddydau yng Nghymru. Rydym yn gweithredu saith diwrnod yr wythnos, a phob dydd ac eithrio Dydd Nadolig. Mae'r adran Bwyd a Diod wedi mynd trwy newid sylweddol yn y 12 mis diwethaf gyda dau far newydd yn agor, ac un sydd i’w hagor yn fuan. Mae pob un yn cynnig hunaniaeth, gwasanaeth a chynnig gwahanol, gan ddarparu cyfle sylweddol ar gyfer tyfiant.
Mae gennym ni rywbeth at ddant pawb, p'un a ydych chi'n mwynhau coffi wedi'i rostio'n lleol neu noson yn y cabaret, rydyn ni'n gartref i bawb ac yn angerddol am ddarparu profiadau anhygoel.
Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:
Dyma gyfle newydd cyffrous i ymuno â thîm bwyd a diod sy'n tyfu, yma yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae gennym nifer o fariau ar waith ar unrhyw un adeg, sy’n rhoi pleser i’n hymwelwyr ac yn tanio’r dychymyg.Rydym yn chwilio am Reolwr/wraig Cynorthwyol brofiadol neu rywun sy'n barod i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfa, sydd yn gallu cael y gorau allan o dîm ac sy'n mwynhau bodloni cwsmeriaid, syfrdanu ein hymwelwyr, ac arwain trwy esiampl.Boed yn ein caffi/bar, Ffwrnais, sydd yn hyrwyddo’r cynnyrch Cymreig gorau neu noson wych yn Cabaret, mae gennym ni rywbeth ar gyfer pawb yma yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, gyda thyfiant pellach cyffrous i ddod yn ddiweddarach eleni.Byddwch wedi eich lleoli'n weithredol yn ein safleoedd Bwyd a Diod, yn rheoli'r tîm yn uniongyrchol, yn arwain trwy esiampl ac yn darparu gwasanaeth rhagorol ar gyfer ein cwsmeriaid yn gyson. Mae’n bosib y bydd angen gwiriad DBS ar gyfer eich rôl.
Gofynion Allweddol:
Profiad o weithredu fel Rheolwr/wraig Cynorthwyol neu rywun sy'n barod i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfa reoli.Y gallu i ddefnyddio eich profiad rheoli i gefnogi'r Rheolwr Bwyd a Diod yn y gwaith o redeg y busnes o ddydd i ddydd.Profiad o reoli gweithrediad Bwyd a Diod mawr a phrysur neu sefydliad lletygarwch prysur iawn.Safonau uchel, agwedd ‘gallu gwneud’, wedi eich gyrru gan ganlyniadau a gyda sylw rhagorol at fanylder.Rhagolwg masnachol cryf, yn benderfynol o gyflawni canlyniadau.Profiad o weithredu a gweithio gyda Gweithdrefnau Gweithredu Safonol.Profiad AD a Hyfforddiant i allu rheoli a datblygu aelodau tîm yn effeithlon.
Beth Sydd Ynddo i Chi?
33 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc, ynghyd â'r cyfle i brynu neu werthu hyd at 5 diwrnod o wyliau blynyddol bob blwyddynCynllun pensiwn sydd yn uwch na’r statudolGwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigoAelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapiRhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluolYswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddolCyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadauCLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeionNEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y GanolfanGwersi Cymraeg am ddim ar leinParcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithioWythnos waith 35 awr flynyddol gan gynnwys polisi gweithio hyblyg gydag amseroedd dechrau a gorffen amrywiol
Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.
Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.
-----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
We are Wales Millennium Centre - Fire for the Imagination Role Title: Food and Beverage Assistant Manager Salary: £28231 Closing Date: 01/05/2024 Interview Date: WC 06/05/2024 About WMC/Our Department:
WMC is a home for the arts in Wales, and a cauldron of creativity for the nation. We fire imaginations by curating world-class, critically acclaimed touring productions, from musical theatre and comedy to dance, cabaret and an international festival. We kindle emerging talents with fresh, provocative, and popular pieces of our own, rooted in Welsh culture. We ignite a passion for the arts in young people with life-changing learning experiences and chances to shine in the spotlight. As a venue our Food and beverage department is a major source of income to us being able to continue our growth in being the leading home for arts in Wales. We operate seven days a week, and every day except Christmas Day. The food and beverage department has undergone significant change in the last 12 months with two new bars opening, and one due to open soon. Each have their own identity, service style and offer, providing significant opportunity for further growth. We genuinely have something for everyone, whether you enjoy a locally roasted coffee or a night at the cabaret, we are a home for all and are passionate about delivering amazing experiences.
About the Role and Responsibilities:
An exciting new opportunity to join a growing food and beverage team here at WMC. We have several bars in operation at any one time, delighting our visitors and firing the imagination for all. We are looking for an Experienced Assistant Manager or someone who is ready to take the next step in their career who can get the best of a team and enjoys making the customers day, wowing our visitors, and leading by example. Whether it is our café/bar, Ffwrnais, championing the best in Welsh produce or a great night out at Cabaret, we have got something for everyone here at WMC, with more exciting growth coming later this year.To be operationally based in the F&B outlets, directly managing the team, and leading by example, delivering consistently excellent customer service. Your role may be subject to a DBS check
Key Requirements:
Experience of being an Assistant Manager or someone who is ready to take the next step in their management career. Use your management experience to support the F&B Manager in the day-to-day running of the business.Experience in Managing a Large Fast-paced F&B Operation or High volume fast-paced Hospitality establishment.High Standards, a can-do attitude, be results driven and have excellent attention to detail.A strong commercial outlook, determined to achieving results.Has experience of implementing and working with Standard Operating Procedures.Has HR and Training experience to be able to manage and develop team members efficiently. What’s in it for you?
33 days of annual leave including bank holidays, plus the opportunity to buy or sell up to 5 days annual leave each yearEnhanced pension schemeEnhanced maternity, paternity, adoption, and shared parental leave (subject to length of service) Health cash plan: receive money towards dental and optical care, complimentary treatments such as chiropractic, osteopathic and acupuncture treatments.Medical Assistance membership which includes remote access to GP, counselling, and physiotherapy sessions Employee assistance programmes which include access to support services for legal, financial, and family concernsLife assurance of 4x annual salary. Opportunity to apply for tickets to productions CLWB – Our employee social group NEWID – our Equality, Diversity, and Inclusion networking group who meet monthly to discuss new ideas and training opportunities to improve all aspects of employment at WMC.Free access to learn Welsh online£5 all-day parking available on working and non-working days.Annualised 35-hour working week including a flexitime policy to assist with varying start and finish times. At Wales Millennium Centre, our commitment to diversity and inclusion goes beyond words; it is a fundamental aspect that guides our actions. Adhering to the principles outlined in Section 158 of the Equality Act 2010, we actively embrace positive action in our recruitment and selection processes. Recognising the underrepresentation of specific groups, particularly individuals with disabilities, and those from Black, Asian, and ethnically diverse backgrounds, within our workforce, we have implemented proactive measures to address this disparity.
Through our positive action approach, applicants of our advertised roles from these underrepresented groups, meeting the minimum criteria detailed in the role profile, will be shortlisted for interview selection. Our commitment extends beyond meeting legal obligations; we aspire to cultivate a workplace that authentically embraces the rich diversity of our global society.
#J-18808-Ljbffr
Apply