Job:
ARWEINYDD DYSGU AC ADDYSGU YSGOL ISAF, YSGOL RHYD Y GRUG Job Ref:
TC035-1724 Location:
Ysgol Gymraeg Rhyd Y Grug Speciality:
YSGOL GYMRAEG RHYD Y GRUGARWEINYDD DYSGU AC ADDYSGU YSGOL ISAFCyflog: MPS/UPS ynghyd â CAD2 £3,271 ar sail parhaolParhaol, Llawn amserDyddiad dechrau:Medi 2024Nid yw'r swydd yn addas ar gyfer ANGMae Pennaeth a Llywodraethwyr yr ysgol benodedig Gymraeg llwyddiannus, uchelgeisiol a chyfeillgar hon yn awyddus i benodi person brwdfrydig, profiadol, uchelgeisiol ac ymroddgar i fod yn Arweinydd Dysgu ac Addysgu yn yr Ysgol Isaf. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arweinydd ysbrydoledig gyda’r gallu, y weledigaeth a’r brwdfrydedd i arwain tîm o staff brwdfrydig er mwyn cynnal a chodi safonau’r adran. Bydd yn aelod o Uwch Dîm Rheoli’r Ysgol, yn ymarferydd rhagorol ar lawr y dosbarth ac yn fodlon cyfrannu i weithgareddau allgyrsiol yr ysgol.Mae Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug yn adnabyddus am ei hamgylchedd meithringar, croesawgar, ac rydym yn angerddol am ddyfodol ein dysgwyr. Ein nod fel ysgol yw creu awyrgylch hapus a diogel a sicrhau cyfleoedd i’n disgyblion ffynnu a chyrraedd eu llawn botensial. Mae’r ysgol yn gwasanaethu dalgylch eang o amgylch Aberfan ym Merthyr Tudful. Mae ynddi 287 o ddisgyblion, gan gynnwys 34 yn y Feithrin.Dyma gyfle cyffrous i athro/athrawes flaengar dderbyn datblygiad proffesiynol eithriadol a phrofiad o arwain adran ysgol.Bydd deiliad y rôl hon yn atebol i’r Pennaeth, Mrs Alwen Bowen.Am sgwrs anffurfiol, mae croeso cynnes i chi gysylltu â’r Pennaeth.Dyddiad cau : Dydd Mawrth, Mai 14eg 2024 (Canol Dydd).Tynir y rhestr fer ar Ddydd Iau 16eg Mai, a bydd y cyfweliadau yn cael eu cynnal yn ystod wythnos 20fed Mai 2024.Gellir llenwi ffurflenni cais ar-lein ar www.merthyr.gov.ukOs nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gellir cael ffurflenni cais trwy ffonio 01685 725000 a dylid eu dychwelyd erbyn 14eg Mai 2024 fan bellaf i'r Weinyddiaeth AD, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.E-bost: ##### yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag yn gynharach na'r dyddiad cau.Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Gellir cyflwyno ffurflenni cais yn Gymraeg ac ni fydd unrhyw geisiadau a gwblheir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na’r rhai a gyflwynir yn Saesneg. Os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer yn llwyddiannus ar gyfer cyfweliad cysylltwch â ni i roi gwybod i ni os hoffech i'ch cyfweliad gael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg.Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymuned. Cynhelir gwiriadau cyn-cyflogaeth trwyadl ar gyfer pob penodiad fel rhan o'n proses recriwtio a dethol.Mae'n ofynnol i bob gweithiwr gydymffurfio â'i gyfrifoldebau unigol a sefydliadol o dan y Ddeddf Diogelu Data, y Polisi Diogelwch Gwybodaeth a pholisïau gweithredol ategol perthnasol. Ni ddylai unrhyw faterion o natur gyfrinachol gael eu datgelu na’u trosglwyddo i unrhyw bersonau anawdurdodedig neu drydydd parti o dan unrhyw amgylchiad naill ai yn ystod neu ar ôl cyflogaeth ac eithrio yng nghwrs priodol eich cyflogaeth neu fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful neu’r ddau. Gall unrhyw achos o dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain yn Gyflogwr o Ddewis, wedi ymrwymo i hyrwyddo ac integreiddio cyfle cyfartal i bob agwedd ar ein gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ymgeiswyr o bob grwp a chefndir i wneud cais ac ymuno â ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym wedi ymrwymo’n gryf i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle a sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dethol ar sail oedran, anabledd rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiant, a beichiogrwydd a mamolaeth
#J-18808-Ljbffr